25Cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon (“cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig”)—
(a)ag unrhyw berchennog ar heneb gofrestredig, neu
(b)ag unrhyw berchennog ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yng nghyffiniau heneb o’r fath (“tir cysylltiedig”).
(2)Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a Gweinidogion Cymru)—
(a)unrhyw feddiannydd ar yr heneb neu ei thir cysylltiedig;
(b)unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu ei thir cysylltiedig;
(c)unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r heneb neu ei thir cysylltiedig;
(d)unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb neu ei thir cysylltiedig yn ei ardal;
(e)unrhyw awdurdod lleol sydd, yn rhinwedd Pennod 6, yn warcheidwad ar yr heneb neu ei thir cysylltiedig;
(f)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr heneb neu am henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddi neu ynddynt.
(3)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig roi cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(1) ar gyfer gwaith penodedig at ddiben—
(a)symud ymaith neu atgyweirio’r heneb y mae’r cytundeb yn ymwneud â hi, neu
(b)gwneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu unrhyw ychwanegiadau ati.
(4)Pan fo cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.
(5)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig hefyd—
(a)pennu gwaith a fyddai, neu na fyddai, ym marn y partïon, yn waith y mae adran 11 yn gymwys iddo;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r heneb neu ei thir cysylltiedig;
(c)gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r heneb neu ei thir cysylltiedig;
(d)darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb neu ei thir cysylltiedig a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;
(e)cyfyngu ar fynediad i’r heneb neu ei thir cysylltiedig neu ar y defnydd o’r heneb neu ei thir cysylltiedig;
(f)gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r heneb neu ei thir cysylltiedig;
(g)darparu i Weinidogion Cymru, neu unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb neu ei thir cysylltiedig yn ei ardal, wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—
(i)am gostau unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y costau hynny, neu
(ii)yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.
(6)Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig ymwneud â mwy nag un heneb neu fwy nag un darn o dir cysylltiedig.
(7)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.