RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG
Digollediad
24Digollediad pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig yn peidio â chael ei awdurdodi
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwaith sy’n effeithio ar heneb gofrestredig a awdurdodwyd yn flaenorol o dan y Bennod hon yn peidio â chael ei awdurdodi—
(a)
oherwydd bod awdurdodiad o dan adran 12 yn peidio â bod yn gymwys (boed hynny oherwydd diwygiad i’r tabl yn Atodlen 3 neu gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (3) o’r adran honno),
(b)
oherwydd bod cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei addasu neu ei ddirymu drwy orchymyn a wneir o dan adran 20, neu
(c)
yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 4, oherwydd bod hysbysiad o addasiad neu ddirymiad arfaethedig cydsyniad heneb gofrestredig wedi ei gyflwyno o dan baragraff 1 o’r Atodlen honno.
(2)
Mae gan unrhyw berson a chanddo fuddiant yn yr heneb hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am—
(a)
unrhyw wariant y mae’r person yn mynd iddo wrth gyflawni gwaith a ddaw yn ofer oherwydd bod gwaith pellach yn peidio â chael ei awdurdodi, neu
(b)
unrhyw golled arall neu unrhyw ddifrod arall a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r ffaith honno.
(3)
Nid oes gan berson hawlogaeth i gael digollediad o dan yr adran hon mewn achos o fewn is-adran (1)(a) oni bai, ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer y gwaith o dan sylw, fod cydsyniad yn cael ei wrthod, neu’n cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau ac eithrio’r rheini a oedd yn gymwys yn flaenorol yn rhinwedd adran 12.
(4)
At ddibenion yr adran hon mae gwariant yr eir iddo wrth lunio planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n baratoadol i unrhyw waith, i’w drin fel pe bai’n wariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith.
(5)
Yn ddarostyngedig i hynny, nid oes digollediad yn daladwy o dan yr adran hon mewn cysylltiad—
(a)
â gwaith a gyflawnwyd cyn i awdurdodiad o dan adran 12 fod yn gymwys mewn perthynas â’r gwaith neu cyn i’r cydsyniad heneb gofrestredig o dan sylw gael ei roi (yn ôl y digwydd), neu
(b)
â cholled arall neu ddifrod arall (ac eithrio colled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r awdurdodiad hwnnw fod yn gymwys neu cyn i’r cydsyniad hwnnw gael ei roi.
(6)
Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r gwaith yn peidio â chael ei awdurdodi.