(1)Ystyr y “swm adenilladwy” at ddibenion adran 22 yw swm a bennir gan Weinidogion Cymru wrth roi hysbysiad o’u penderfyniad ar y cais am gydsyniad heneb gofrestredig neu yn y gorchymyn sy’n addasu’r cydsyniad (yn ôl y digwydd); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (3).
(2)Pan fo person a chanddo fuddiant mewn heneb yn gwrthwynebu’r swm a bennir gan Weinidogion Cymru, caiff y person ei gwneud yn ofynnol i’r penderfyniad ar y swm gael ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys.
(3)Pan fo atgyfeiriad yn cael ei wneud i’r Uwch Dribiwnlys o dan is-adran (2) y swm adenilladwy yw’r swm y mae’r Tribiwnlys yn ei benderfynu.
(4)Caiff y swm a bennir neu a benderfynir fel y swm adenilladwy o dan yr adran hon fod yn swm sy’n cynrychioli’r cyfan neu unrhyw ran o’r digollediad a delir o dan adran 21.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 23 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)