RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG
Digollediad
23Penderfynu’r swm sy’n adenilladwy o dan adran 22
(1)
Ystyr y “swm adenilladwy” at ddibenion adran 22 yw swm a bennir gan Weinidogion Cymru wrth roi hysbysiad o’u penderfyniad ar y cais am gydsyniad heneb gofrestredig neu yn y gorchymyn sy’n addasu’r cydsyniad (yn ôl y digwydd); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (3).
(2)
Pan fo person a chanddo fuddiant mewn heneb yn gwrthwynebu’r swm a bennir gan Weinidogion Cymru, caiff y person ei gwneud yn ofynnol i’r penderfyniad ar y swm gael ei atgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys.
(3)
Pan fo atgyfeiriad yn cael ei wneud i’r Uwch Dribiwnlys o dan is-adran (2) y swm adenilladwy yw’r swm y mae’r Tribiwnlys yn ei benderfynu.
(4)
Caiff y swm a bennir neu a benderfynir fel y swm adenilladwy o dan yr adran hon fod yn swm sy’n cynrychioli’r cyfan neu unrhyw ran o’r digollediad a delir o dan adran 21.