RHAN 7CYFFREDINOL
Cyffredinol
211Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.
(1)
Mae Atodlen 13 yn cynnwys mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
(2)
Mae Atodlen 14 yn cynnwys darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;
(b)
gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
(4)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).