Yn y Ddeddf hon—
ystyr “adeilad” (“building”) (ac eithrio yn Rhan 2) yw—
unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur, neu
unrhyw ran o adeilad neu strwythur,
ond nid yw’n cynnwys (ac eithrio yn adran 148) gyfarpar neu beiriannau sy’n ffurfio rhan o adeilad neu strwythur;
mae i “adeilad rhestredig” (“listed building”) yr ystyr a roddir gan adran 76;
ystyr “ardal gadwraeth” (“conservation area”) yw ardal sydd wedi ei dynodi o dan adran 158;
ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw awdurdod cynllunio lleol, o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8), ar gyfer ardal yng Nghymru;
mae i “awdurdod priodol y Goron” (“appropriate Crown authority”) yr ystyr a roddir gan adran 207(6);
mae i “buddiant y Ddugiaeth” (“Duchy interest”) yr ystyr a roddir gan adran 207(4);
mae i “buddiant y Goron” (“Crown interest”) yr ystyr a roddir gan adran 207(3);
mae i “buddiant preifat” (“private interest”), mewn perthynas â thir y Goron, yr ystyr a roddir gan adran 207(5);
mae i “caniatâd cynllunio” yr ystyr a roddir i “planning permission” gan adran 336(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);
mae i “cydsyniad adeilad rhestredig” (“listed building consent”) yr ystyr a roddir gan adran 89;
mae i “cydsyniad ardal gadwraeth” (“conservation area consent”) yr ystyr a roddir gan adran 162;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000 (p. 7);
ystyr “cyfeiriad” (“address”), mewn perthynas â chyfathrebiadau electronig, yw unrhyw rif neu unrhyw gyfeiriad a ddefnyddir at ddiben cyfathrebiadau electronig;
mae i “cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig” (“listed building partnership agreement”) yr ystyr a roddir gan adran 113(5);
mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw ddeddfiad, pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;
mae “y Goron” (“the Crown”) i’w ddehongli yn unol ag adran 207(7);
ystyr “gwaredu” (“disposal”), mewn perthynas â thir, yw gwaredu drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les, drwy greu hawddfraint, hawl neu fraint, neu mewn unrhyw ffordd arall, ond nid yw’n cynnwys gwaredu drwy neilltuo, drwy rodd neu drwy forgais;
mae “heneb” (“monument”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2;
mae i “heneb gofrestredig” (“scheduled monument”) yr ystyr a roddir gan adran 3(7);
mae “les” (“lease”) yn cynnwys is-les a chytundeb am les neu is-les, ond nid yw’n cynnwys opsiwn i gymryd les neu forgais;
ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas â thir (ac eithrio yn adrannau 15, 25, 26, 91, 113 a 186), yw person, pa un ai yn ei hawl ei hun neu fel ymddiriedolwr ar gyfer unrhyw berson arall—
sydd â hawlogaeth i gael crogrent y tir, neu
a fyddai â hawlogaeth o’r fath pe bai’r tir yn cael ei osod am grogrent,
ond nid yw’n cynnwys morgeisai nad yw mewn meddiant;
mae “safle” (“site”), mewn perthynas â heneb, i’w ddehongli yn unol ag adran 2;
mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau;
o ran “tir” (“land”)—
ei ystyr yw unrhyw hereditament corfforol, gan gynnwys adeilad neu heneb, a
mewn perthynas â chaffael tir, mae’n cynnwys unrhyw fuddiant mewn tir neu unrhyw hawl dros dir;
mae i “tir y Goron” (“Crown land”) yr ystyr a roddir gan adran 207(2);
ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw person—
sy’n ymgymerwr statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory undertakers” gan adran 262 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8), neu
y tybir gan yr adran honno ei fod yn ymgymerwr statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf honno,
ac mae cyfeiriadau at “ymgymeriad” ymgymerwr statudol i’w dehongli yn unol â’r adran honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 210 mewn grym ar 15.6.2023, gweler a. 212(1)(c)