RHAN 7CYFFREDINOL

Achosion arbennig

207Diffiniadau sy’n ymwneud â’r Goron

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)

Ystyr “tir y Goron” yw tir y mae buddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth ynddo.

(3)

Ystyr “buddiant y Goron” yw buddiant—

(a)

sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Ei ystadau preifat, neu

(b)

sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

(4)

Ystyr “buddiant y Ddugiaeth” yw—

(a)

buddiant sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, neu

(b)

buddiant sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw.

(5)

Ystyr “buddiant preifat”, mewn perthynas â thir y Goron, yw buddiant nad yw’n fuddiant y Goron nac yn fuddiant y Ddugiaeth.

(6)

Ystyr “awdurdod priodol y Goron”, mewn perthynas â thir y Goron, yw—

(a)

yn achos tir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystad y Goron, Comisiynwyr Ystad y Goron;

(b)

mewn perthynas ag unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl y Goron, yr adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir;

(c)

mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Ei ystadau preifat, person a benodir gan Ei Fawrhydi yn ysgrifenedig o dan y Llofnod Brenhinol neu, os na wneir unrhyw benodiad o’r fath, Gweinidogion Cymru;

(d)

mewn perthynas â thir sy’n perthyn i’w Fawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, Canghellor y Ddugiaeth;

(e)

mewn perthynas â thir sy’n perthyn i Ddugiaeth Cernyw, person a benodir gan Ddug Cernyw neu gan berson sy’n meddu ar y Ddugiaeth am y tro;

(f)

yn achos tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Fawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yr adran.

(7)

Mae “y Goron” i’w drin fel pe bai’n cynnwys Comisiwn y Senedd.

(8)

Rhaid atgyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n codi ynghylch pwy yw awdurdod priodol y Goron mewn perthynas ag unrhyw dir i’r Trysorlys, y mae ei benderfyniad yn derfynol.

(9)

Yn yr adran hon—

(a)

mae cyfeiriadau at ystadau preifat Ei Fawrhydi i’w darllen yn unol ag adran 1 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37);

(b)

mae cyfeiriadau at adran o’r llywodraeth yn cynnwys Gweinidog y Goron a Chomisiwn y Senedd (a gweler adran 85 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), sy’n darparu i gyfeiriadau at adran o’r llywodraeth gynnwys Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol).