(1)Mae’r adran hon yn gymwys (yn ychwanegol at adran 205) pan fo darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir odani yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad neu ddogfen arall gael ei gyflwyno neu ei chyflwyno i berson, neu’n awdurdodi cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berson—
(a)am fod ganddo fuddiant mewn adeilad, heneb neu dir, neu
(b)am ei fod yn feddiannydd ar adeilad, heneb neu dir.
(2)Pan fo’r ddogfen i’w chyflwyno i berson am fod ganddo fuddiant mewn adeilad, heneb neu dir, ac na ellir darganfod enw’r person ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyfeirio’r ddogfen at y person fel “y perchennog” ar yr adeilad, yr heneb neu’r tir (y mae rhaid ei ddisgrifio neu ei disgrifio).
(3)Pan fo’r ddogfen i’w chyflwyno i berson am ei fod yn feddiannydd ar adeilad, heneb neu dir, caniateir ei chyfeirio at y person wrth ei enw neu fel “y meddiannydd” ar yr adeilad, yr heneb neu’r tir (y mae rhaid ei ddisgrifio neu ei disgrifio).
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—
(a)pan—
(i)bo dogfen i’w chyflwyno i berson am fod ganddo fuddiant mewn adeilad, heneb neu dir,
(ii)na fo modd darganfod man preswylio arferol neu fan preswylio hysbys diwethaf y person ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, a
(iii)na fo’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno’r ddogfen, neu
(b)pan fo dogfen i’w chyflwyno i berson am ei fod yn feddiannydd ar adeilad, heneb neu dir.
(5)Mae’r ddogfen i’w thrin fel pe bai wedi ei chyflwyno’n briodol os yw wedi ei chyfeirio at y person, wedi ei marcio’n glir fel cyfathrebiad pwysig sy’n effeithio ar eiddo’r person, a’i bod—
(a)wedi ei hanfon i’r adeilad, yr heneb neu’r tir drwy’r post ac nad yw wedi ei dychwelyd fel dogfen nas danfonwyd,
(b)wedi ei rhoi â llaw i berson sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn preswylio neu wedi ei gyflogi yn neu ar yr adeilad, yr heneb neu’r tir, neu
(c)wedi ei gosod yn sownd mewn lle gweladwy ar yr adeilad neu’r heneb neu ar wrthrych ar safle’r heneb neu ar y tir.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 206 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212
I2A. 206 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)