RHAN 7CYFFREDINOL

Digollediad

203Penderfynu hawliadau digollediad gan yr Uwch Dribiwnlys

(1)

Mae unrhyw anghydfod ynghylch digollediad o dan y Ddeddf hon i’w atgyfeirio at yr Uwch Dribiwnlys ac i’w benderfynu ganddo.

(2)

Mae adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p. 33) (costau) yn gymwys i benderfynu cwestiwn a atgyfeirir o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys i benderfynu cwestiwn a atgyfeirir o dan adran 1 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at yr “acquiring authority” yn gyfeiriadau at y person yr hawlir digollediad oddi wrtho.