RHAN 7LL+CCYFFREDINOL

DigollediadLL+C

202Gwneud hawliadau am ddigollediadLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan y Ddeddf hon;

(b)diwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n pennu’r cyfnod y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad ynddo.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad am ddigollediad o dan y Ddeddf hon mewn achos penodol, os ydynt wedi eu bodloni bod rhesymau da dros wneud hynny.

(3)Caniateir estyn y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad—

(a)ar unrhyw adeg, pa un ai cyn neu ar ôl i’r cyfnod ddod i ben, a

(b)mwy nag unwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 202 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

I2A. 202 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)