RHAN 7CYFFREDINOL

Digollediad

202Gwneud hawliadau am ddigollediad

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)

gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad o dan y Ddeddf hon;

(b)

diwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n pennu’r cyfnod y mae rhaid gwneud hawliad am ddigollediad ynddo.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad am ddigollediad o dan y Ddeddf hon mewn achos penodol, os ydynt wedi eu bodloni bod rhesymau da dros wneud hynny.

(3)

Caniateir estyn y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad—

(a)

ar unrhyw adeg, pa un ai cyn neu ar ôl i’r cyfnod ddod i ben, a

(b)

mwy nag unwaith.