RHAN 7CYFFREDINOL
Troseddau
201Sancsiynau sifil
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas â throsedd o dan y Ddeddf hon y gallent ei gwneud o dan Ran 3 o DGRhS 2008 (sancsiynau sifil) pe bai, at ddibenion y Rhan honno—
(a)
Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod arall a chanddo swyddogaeth orfodi mewn perthynas â’r drosedd yn rheoleiddiwr, a
(b)
y drosedd yn drosedd berthnasol mewn perthynas â’r rheoleiddiwr hwnnw.
(2)
Mae adrannau 59(3) a 60(1) a (2) o DGRhS 2008 (ymgynghori) yn gymwys i reoliadau o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i orchymyn o dan Ran 3 o DGRhS 2008.
(3)
Mae adrannau 63 i 70 o DGRhS 2008 (canllawiau, arfer pwerau, taliadau i Gronfa Gyfunol Cymru a datgelu gwybodaeth) ym gymwys mewn perthynas â darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â darpariaeth a wneir o dan Ran 3 o DGRhS 2008.
(4)
Yn is-adran (1) mae’r cyfeiriad at awdurdod a chanddo swyddogaeth orfodi i’w ddehongli yn unol ag adran 71 o DGRhS 2008.
(5)
Yn yr adran hon ystyr “DGRhS 2008” yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13).