RHAN 7LL+CCYFFREDINOL

TroseddauLL+C

200Troseddau gan gyrff corfforedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)uwch-swyddog i’r corff, neu

(b)person a oedd yn ymhonni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff.

(2)Mae’r uwch-swyddog neu’r person (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd, ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(4)Ond yn achos corff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, ystyr “cyfarwyddwr” yw aelod o’r corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 200 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

I2A. 200 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)