RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 3LL+CRHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG

Addasu a dirymu cydsyniad heneb gofrestredigLL+C

20Addasu a dirymu cydsyniadLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig i unrhyw raddau.

(2)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan yr adran hon mewn perthynas—

(a)â chydsyniad heneb gofrestredig a roddir o dan adran 13(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni), na

(b)â chydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig (gweler Pennod 4).

(3)Mae Atodlenni 4 a 6 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gorchmynion o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 20 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)