RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG

Addasu a dirymu cydsyniad heneb gofrestredig

20Addasu a dirymu cydsyniad

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig i unrhyw raddau.

(2)

Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan yr adran hon mewn perthynas—

(a)

â chydsyniad heneb gofrestredig a roddir o dan adran 13(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni), na

(b)

â chydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig (gweler Pennod 4).

(3)

Mae Atodlenni 4 a 6 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gorchmynion o dan yr adran hon.