RHAN 7LL+CCYFFREDINOL

Pwerau i wneud gwybodaeth am fuddiannau mewn tir yn ofynnolLL+C

199Gwybodaeth am fuddiannau yn nhir y GoronLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i fuddiant yn nhir y Goron nad yw’n fuddiant preifat.

(2)Nid yw adran 197 yn gymwys i fuddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(3)Ond caiff Gweinidogion Cymru, at ddiben galluogi awdurdod perthnasol i arfer swyddogaeth a grybwyllir yn adran 197(2)(a) neu (b), ofyn i awdurdod priodol y Goron gadarnhau’n ysgrifenedig—

(a)natur buddiant yr awdurdod yn y tir;

(b)enw a chyfeiriad unrhyw berson arall sy’n wybyddus i’r awdurdod fel rhywun y mae ganddo fuddiant yn y tir.

(4)Rhaid i awdurdod priodol y Goron gydymffurfio â chais o dan is-adran (3) ac eithrio i’r graddau—

(a)nad yw’r wybodaeth y gofynnir amdani o fewn gwybodaeth yr awdurdod, neu

(b)y bydd gwneud hynny yn datgelu gwybodaeth—

(i)am ddiogelwch gwladol, neu

(ii)am y mesurau sydd wedi eu cymryd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu eiddo arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 199 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212

I2A. 199 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)