(1)Caiff awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwybodaeth”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd unrhyw dir neu i berson sy’n cael rhent (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) mewn cysylltiad ag unrhyw dir gadarnhau’n ysgrifenedig—
(a)natur buddiant y person yn y tir, a
(b)enw a chyfeiriad unrhyw berson arall sy’n wybyddus i’r person fel rhywun y mae ganddo fuddiant yn y tir.
(2)Ond ni chaiff awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad gwybodaeth oni bai bod ar yr awdurdod angen yr wybodaeth sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i’w alluogi—
(a)i arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod o dan neu yn rhinwedd Rhan 2, neu
(b)i wneud gorchymyn neu ddyroddi neu gyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, 4 neu 5.
(3)Caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi—
(a)o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, neu
(b)o fewn unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr hysbysiad neu a ganiateir gan yr awdurdod perthnasol.
(4)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod perthnasol” yw—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)awdurdod lleol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 157).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 197 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212
I2A. 197 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)