RHAN 7CYFFREDINOL

Pwerau i wneud gwybodaeth am fuddiannau mewn tir yn ofynnol

197Pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol drwy hysbysiad

(1)

Caiff awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwybodaeth”) sy’n ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd unrhyw dir neu i berson sy’n cael rhent (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) mewn cysylltiad ag unrhyw dir gadarnhau’n ysgrifenedig—

(a)

natur buddiant y person yn y tir, a

(b)

enw a chyfeiriad unrhyw berson arall sy’n wybyddus i’r person fel rhywun y mae ganddo fuddiant yn y tir.

(2)

Ond ni chaiff awdurdod perthnasol gyflwyno hysbysiad gwybodaeth oni bai bod ar yr awdurdod angen yr wybodaeth sy’n ofynnol gan yr hysbysiad i’w alluogi—

(a)

i arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod o dan neu yn rhinwedd Rhan 2, neu

(b)

i wneud gorchymyn neu ddyroddi neu gyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall‍ o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, 4 neu 5.

(3)

Caiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi—

(a)

o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, neu

(b)

o fewn unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr hysbysiad neu a ganiateir gan yr awdurdod perthnasol.

(4)

Yn yr adran hon ystyr “awdurdod perthnasol” yw—

(a)

Gweinidogion Cymru;

(b)

awdurdod lleol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 157).