RHAN 6LL+CASEDAU TREFTADAETH ERAILL A CHOFNODION

Cofnodion amgylchedd hanesyddolLL+C

196Canllawiau i gyrff cyhoeddus penodol ynghylch cofnodion amgylchedd hanesyddolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cyrff a restrir yn is-adran (2)—

(a)ar sut y gall y cyrff gyfrannu tuag at lunio cofnodion amgylchedd hanesyddol a chynorthwyo i gynnal y cofnodion, a

(b)ar y defnydd o gofnodion amgylchedd hanesyddol wrth arfer swyddogaethau’r cyrff.

(2)Y cyrff yw—

(a)awdurdodau lleol,

(b)awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, ac

(c)Cyfoeth Naturiol Cymru.

(3)Rhaid i’r cyrff hynny roi sylw i’r canllawiau.

(4)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori—

(a)â’r cyrff, a

(b)ag unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 196 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 196 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)