RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH

PENNOD 4CYFFREDINOL

Y Goron

190Camau gorfodi mewn perthynas â thir y Goron

(1)

Ni chaiff awdurdod cynllunio gymryd cam gorfodi perthnasol mewn perthynas â thir y Goron heb gytundeb awdurdod priodol y Goron.

(2)

Caiff awdurdod priodol y Goron roi cytundeb yn ddarostyngedig i amodau.

(3)

Yn yr adran hon ystyr “cam gorfodi perthnasol” yw unrhyw beth a wneir mewn cysylltiad â gorfodi gofyniad neu waharddiad a osodir gan neu o dan Ran 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(4)

Mae’n cynnwys—

(a)

mynd ar dir, a

(b)

dwyn achos neu wneud cais.

(5)

Ond nid yw’n cynnwys—

(a)

dyroddi neu gyflwyno hysbysiad (er enghraifft hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop dros dro), neu

(b)

gwneud gorchymyn (er enghraifft gorchymyn o dan adran 107 neu 115).