RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG

Rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau

19Amod ynghylch y cyfnod y mae rhaid i’r gwaith ddechrau ynddo

(1)

Rhaid rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr amod ac sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y cydsyniad.

(2)

Os rhoddir cydsyniad heb yr amod sy’n ofynnol gan is-adran (1), mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi yn ddarostyngedig i’r amod bod rhaid i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd y cydsyniad.

(3)

Nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)

i gydsyniad heneb gofrestredig sy’n darparu ei fod yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod a bennir yn y cydsyniad (ni waeth a yw unrhyw waith wedi dechrau),

(b)

i gydsyniad a roddir o dan adran 13(2) (cydsyniad ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni), nac

(c)

i gydsyniad a roddir gan gytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu gytundeb rheoli (gweler adrannau 25 a 51).