RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH

PENNOD 4CYFFREDINOL

Y Goron

189Cyflwyno dogfennau i’r Goron

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i’r Goron yn ofynnol neu wedi ei awdurdodi o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.

(2)

Rhaid cyflwyno’r ddogfen i awdurdod priodol y Goron.

(3)

Nid yw adrannau 205 a 206 (darpariaethau cyffredinol ynghylch dulliau cyflwyno) yn gymwys i gyflwyno’r ddogfen.