RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 4CYFFREDINOL
Y Goron
188Cynrychiolaeth buddiannau’r Goron a buddiannau’r Ddugiaeth mewn tir
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu sydd wedi ei awdurdodi i’w wneud at ddibenion Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon gan berchennog ar fuddiant mewn tir (gan gynnwys buddiant fel meddiannydd ar y tir yn unig) neu mewn perthynas â pherchennog o’r fath.
(2)
I’r graddau y mae’r buddiant yn fuddiant y Goron neu fuddiant y Ddugiaeth, rhaid i’r peth gael ei wneud gan awdurdod priodol y Goron neu mewn perthynas â’r awdurdod hwnnw.