RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 3DILYSRWYDD PENDERFYNIADAU A’U CYWIRO
Cywiro penderfyniadau Gweinidogion Cymru
187Effaith a dilysrwydd hysbysiad cywiro
(1)
Os gwneir cywiriad o dan adran 186—
(a)
mae’r penderfyniad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei wneud;
(b)
mae’r penderfyniad i’w drin at bob diben fel pe bai wedi ei wneud ar y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cywiro.
(2)
Os na wneir cywiriad—
(a)
mae’r penderfyniad gwreiddiol yn parhau i gael effaith;
(b)
nid yw adran 186 na’r adran hon yn effeithio ar unrhyw beth a wneir yn unol â’r penderfyniad neu mewn perthynas ag ef.
(3)
Pan fo hysbysiad cywiro yn cael ei ddyroddi mewn perthynas â phenderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo, mae adran 183 yn gymwys i’r hysbysiad cywiro fel pe bai’n benderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo.
(4)
Pan fo hysbysiad cywiro yn cael ei ddyroddi mewn perthynas â phenderfyniad y mae adran 184 yn gymwys iddo, mae adran 184 yn gymwys i’r hysbysiad cywiro fel pe bai’n benderfyniad y mae’r adran honno yn gymwys iddo.
(5)
Pan fo rheoliadau o dan adran 185(2)(c) yn pennu disgrifiad o benderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth sy’n cyfateb i adran 183 neu 184 ar gyfer cwestiynu dilysrwydd hysbysiad cywiro a ddyroddir mewn perthynas â phenderfyniad o’r disgrifiad hwnnw.
(6)
Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd hysbysiad cywiro mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio i’r graddau a ddarperir yn rhinwedd yr adran hon.