RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 3DILYSRWYDD PENDERFYNIADAU A’U CYWIRO
Cywiro penderfyniadau Gweinidogion Cymru
186Pŵer i gywiro gwallau cywiradwy mewn dogfennau penderfyniad
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo dogfen penderfyniad yn cael ei dyroddi sy’n cynnwys gwall cywiradwy.
(2)
Os bydd Gweinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod adolygu—
(a)
yn cael cais ysgrifenedig i gywiro’r gwall oddi wrth unrhyw berson, neu
(b)
yn anfon datganiad ysgrifenedig at y ceisydd sy’n esbonio’r gwall ac yn datgan eu bod yn ystyried ei gywiro,
rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i gywiro’r gwall ai peidio.
(3)
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud cywiriad oni bai eu bod wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio eu bod wedi cael y cais a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu wedi anfon y datganiad a grybwyllir yn is-adran (2)(b).
(4)
Y cyfnod adolygu yw—
(a)
pan fo’r ddogfen penderfyniad yn cofnodi penderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo, y cyfnod y caniateir i gais am ganiatâd i wneud cais am adolygiad statudol o dan adran 183 gael ei wneud ynddo i’r Uchel Lys;
(b)
pan fo’r ddogfen penderfyniad yn cofnodi penderfyniad ar apêl o dan adran 127 nad yw adran 182 yn gymwys iddo, y cyfnod y caniateir i gais am ganiatâd i ddwyn achos o dan adran 184 gael ei wneud ynddo i’r Uchel Lys, heb gynnwys unrhyw amser y caiff yr Uchel Lys estyn y cyfnod hwnnw,
ac nid oes gwahaniaeth a wneir unrhyw gais o’r fath mewn gwirionedd.
(5)
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i Weinidogion Cymru gywiro’r gwall neu ar ôl iddynt benderfynu peidio â’i gywiro, rhaid iddynt ddyroddi hysbysiad cywiro.
(6)
Mae hysbysiad cywiro yn hysbysiad sydd—
(a)
yn pennu cywiriad y gwall, neu
(b)
yn rhoi hysbysiad o benderfyniad i beidio â’i gywiro.
(7)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno’r hysbysiad cywiro—
(a)
i’r ceisydd;
(b)
os nad y ceisydd yw perchennog yr adeilad neu’r tir arall y mae’r penderfyniad gwreiddiol yn ymwneud ag ef, i bob perchennog ar yr adeilad neu’r tir;
(c)
i’r awdurdod cynllunio;
(d)
os gofynnodd unrhyw berson arall am y cywiriad, i’r person hwnnw;
(e)
i unrhyw berson arall a bennir, neu sydd o ddisgrifiad a bennir, mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(8)
Pan ddyroddwyd y ddogfen penderfyniad gan berson a benodir o dan adran 173, caniateir i swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan yr adran hon gael eu harfer hefyd gan y person hwnnw neu gan unrhyw berson arall a benodir o dan yr adran honno i benderfynu apelau yn lle Gweinidogion Cymru.
(9)
Yn yr adran hon—
ystyr “yr awdurdod cynllunio” (“the planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad neu’r tir arall y mae’r penderfyniad gwreiddiol yn ymwneud ag ef yn ei ardal;
ystyr “y ceisydd” (“the applicant”) yw’r person a wnaeth y cais neu’r apêl, neu a gyflwynodd yr hysbysiad prynu, y mae’r penderfyniad gwreiddiol yn ymwneud ag ef neu hi;
ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag adeilad neu dir arall, yw—
(a)
perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu’r tir, neu
(b)
tenant o dan les ar yr adeilad neu’r tir a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill.