Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 186 a 187.
(2)Ystyr “dogfen penderfyniad” yw dogfen sy’n cofnodi—
(a)penderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo (gweler is-adran (2) o’r adran honno),
(b)penderfyniad ar apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi), neu
(c)unrhyw benderfyniad arall a wneir o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)Ystyr “gwall cywiradwy” yw gwall—
(a)sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw ran o’r ddogfen penderfyniad sy’n cofnodi’r penderfyniad, ond
(b)nad yw’n rhan o unrhyw resymau a roddir dros y penderfyniad,
ac mae “gwall” yn cynnwys hepgoriad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 185 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 185 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)