RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 3DILYSRWYDD PENDERFYNIADAU A’U CYWIRO
Cywiro penderfyniadau Gweinidogion Cymru
185Ystyr “dogfen penderfyniad” a “gwall cywiradwy”
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 186 a 187.
(2)
Ystyr “dogfen penderfyniad” yw dogfen sy’n cofnodi—
(a)
penderfyniad y mae adran 182 yn gymwys iddo (gweler is-adran (2) o’r adran honno),
(b)
penderfyniad ar apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi), neu
(c)
unrhyw benderfyniad arall a wneir o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Ystyr “gwall cywiradwy” yw gwall—
(a)
sydd wedi ei gynnwys mewn unrhyw ran o’r ddogfen penderfyniad sy’n cofnodi’r penderfyniad, ond
(b)
nad yw’n rhan o unrhyw resymau a roddir dros y penderfyniad,
ac mae “gwall” yn cynnwys hepgoriad.