RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 3DILYSRWYDD PENDERFYNIADAU A’U CYWIRO
Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion
183Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymyn
(1)
Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad neu orchymyn y mae adran 182 yn gymwys iddo, neu’r awdurdod sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniad neu orchymyn o’r fath, wneud cais am adolygiad statudol.
(2)
Mae cais am adolygiad statudol yn gais i’r Uchel Lys sy’n cwestiynu dilysrwydd y penderfyniad neu’r gorchymyn ar y sail—
(a)
nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu
(b)
na chydymffurfiwyd â gofyniad yn y Ddeddf hon, neu mewn is-ddeddfwriaeth a wneir odani, mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn.
(3)
Ni chaniateir gwneud cais am adolygiad statudol ond gyda chaniatâd yr Uchel Lys.
(4)
Rhaid i gais am ganiatâd gael ei wneud cyn diwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth—
(a)
yn achos cais sy’n ymwneud â penderfyniad a grybwyllir yn adran 182(2), y diwrnod y gwneir y penderfyniad;
(b)
yn achos cais sy’n ymwneud â gorchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan adran 107 ac a gadarnheir gan Weinidogion Cymru (gydag addasiadau neu hebddynt), y diwrnod y cadarnheir y gorchymyn;
(c)
yn achos unrhyw gais arall sy’n ymwneud â gorchymyn o dan adran 107, y diwrnod y mae’r gorchymyn yn cymryd effaith;
(d)
yn achos cais sy’n ymwneud â gorchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio o dan adran 115, y diwrnod y cadarnheir y gorchymyn;
(e)
yn achos cais sy’n ymwneud ag unrhyw orchymyn arall a grybwyllir yn adran 182(3), y diwrnod y gwneir y gorchymyn.
(5)
Wrth ystyried pa un ai i roi caniatâd, caiff yr Uchel Lys wneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais arfaethedig am adolygiad statudol yn ymwneud ag ef hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos—
(a)
ar y cais am ganiatâd, neu
(b)
pan fo caniatâd wedi ei roi, ar y cais am adolygiad statudol.
(6)
Ar gais am adolygiad statudol, caiff yr Uchel Lys—
(a)
gwneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos;
(b)
diddymu’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw os yw wedi ei fodloni—
(i)
nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu
(ii)
bod methiant i gydymffurfio â gofyniad yn y Ddeddf hon, neu mewn is-ddeddfwriaeth a wneir odani, mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn, wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fuddiannau’r ceisydd.
(7)
At ddibenion yr adran hon yr awdurdod sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phenderfyniad neu orchymyn yw—
(a)
yn achos penderfyniad ar gais a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan adran 94, yr awdurdod cynllunio a wnaeth yr atgyfeiriad;
(b)
yn achos penderfyniad ar apêl o dan adran 100, yr awdurdod cynllunio y gwnaed y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef iddo;
(c)
yn achos penderfyniad i gadarnhau neu i beidio â chadarnhau hysbysiad prynu—
(i)
yr awdurdod cynllunio y cyflwynwyd yr hysbysiad prynu iddo (gweler adran 109), a
(ii)
os yw Gweinidogion Cymru wedi addasu’r hysbysiad yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy roi awdurdod lleol arall neu ymgymerwr statudol yn lle’r awdurdod cynllunio, yr awdurdod lleol arall hwnnw neu’r ymgymerwr statudol hwnnw;
(d)
yn achos penderfyniad o dan adran 128(3)(a) neu (b) ar apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi a ddyroddwyd gan awdurdod cynllunio, yr awdurdod a ddyroddodd yr hysbysiad;
(e)
yn achos gorchymyn o dan adran 107, yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef yn ei ardal;
(f)
yn achos gorchymyn o dan adran 115, unrhyw awdurdod cynllunio sy’n barti i’r cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef neu a oedd yn barti i’r cytundeb hwnnw;
(g)
yn achos gorchymyn a wnaed o dan adran 181 mewn cysylltiad â phenderfyniad neu orchymyn a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (f), yr awdurdod a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw.