Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 183.
(2)Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—
(a)penderfyniad ar adolygiad o dan adran 81 (adolygu penderfyniad rhestru);
(b)penderfyniad ar gais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 94 (atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i amrywio neu ddileu amodau);
(c)penderfyniad ar apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);
(d)penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 106 (gwaith brys ar dir y Goron);
(e)penderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i gadarnhau neu beidio â chadarnhau hysbysiad prynu, gan gynnwys—
(i)penderfyniad i gadarnhau’r hysbysiad mewn perthynas â rhan yn unig o’r tir y mae’n ymwneud ag ef, a
(ii)penderfyniad i roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, neu gyfarwyddo bod rhaid rhoi cydsyniad, yn hytrach na chadarnhau’r hysbysiad mewn perthynas â’r tir neu unrhyw ran ohono;
(f)penderfyniad o dan adran 128(3)(a) neu (b) (penderfynu apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) i roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i ddileu amod mewn cydsyniad.
(3)Y gorchmynion y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—
(a)gorchymyn o dan adran 107 (addasu neu ddirymu cydsyniad) a wneir gan awdurdod cynllunio (pa un a yw wedi ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru ai peidio) neu Weinidogion Cymru;
(b)gorchymyn o dan adran 115 (terfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb) a wneir gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru;
(c)gorchymyn o dan adran 181 (gorchmynion sy’n ymwneud â chostau partïon) a wneir mewn cysylltiad â phenderfyniad a grybwyllir yn is-adran (2) neu orchymyn a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
(4)Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2A. 182(2) addasu (4.11.2024) gan S.I. 2016/56, Atod. 4 para. 1(3) (as wedi ei amnewid gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 82(b)(ii))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 182 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)