RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 3DILYSRWYDD PENDERFYNIADAU A’U CYWIRO
Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion
182Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol sy’n ymwneud ag adeiladau
(1)
Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 183.
(2)
Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—
(a)
penderfyniad ar adolygiad o dan adran 81 (adolygu penderfyniad rhestru);
(b)
penderfyniad ar gais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 94 (atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i amrywio neu ddileu amodau);
(c)
penderfyniad ar apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);
(d)
penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 106 (gwaith brys ar dir y Goron);
(e)
penderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i gadarnhau neu beidio â chadarnhau hysbysiad prynu, gan gynnwys—
(i)
penderfyniad i gadarnhau’r hysbysiad mewn perthynas â rhan yn unig o’r tir y mae’n ymwneud ag ef, a
(ii)
penderfyniad i roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, neu gyfarwyddo bod rhaid rhoi cydsyniad, yn hytrach na chadarnhau’r hysbysiad mewn perthynas â’r tir neu unrhyw ran ohono;
(f)
penderfyniad o dan adran 128(3)(a) neu (b) (penderfynu apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) i roi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i ddileu amod mewn cydsyniad.
(3)
Y gorchmynion y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—
(a)
gorchymyn o dan adran 107 (addasu neu ddirymu cydsyniad) a wneir gan awdurdod cynllunio (pa un a yw wedi ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru ai peidio) neu Weinidogion Cymru;
(b)
gorchymyn o dan adran 115 (terfynu cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb) a wneir gan awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru;
(c)
gorchymyn o dan adran 181 (gorchmynion sy’n ymwneud â chostau partïon) a wneir mewn cysylltiad â phenderfyniad a grybwyllir yn is-adran (2) neu orchymyn a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
(4)
Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.