RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 2ACHOSION GERBRON GWEINIDOGION CYMRU
Costau achosion gerbron Gweinidogion Cymru
180Talu costau Gweinidogion Cymru
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i’r achosion a ganlyn—
(a)
achos ar gais, apêl neu atgyfeiriad a wneir i neu at Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd Rhan 3 neu 4 (pa un a yw’n cael ei ystyried neu ei hystyried mewn ymchwiliad lleol, mewn gwrandawiad neu ar sail sylwadau ysgrifenedig);
(b)
unrhyw ymchwiliad lleol neu unrhyw wrandawiad arall a gynhelir neu sydd i’w gynnal gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan o dan neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rhannau hynny neu’r Rhan hon.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd, neu awdurdod cynllunio neu barti arall i’r achos, dalu’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt mewn perthynas â’r achos (neu gymaint o’r costau ag a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru).
(3)
Mae’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt mewn perthynas ag unrhyw achos yn cynnwys—
(a)
yr holl gost weinyddol y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddi mewn cysylltiad â’r achos, gan gynnwys yn benodol swm rhesymol y maent yn ei benderfynu mewn cysylltiad â chostau staff cyffredinol a gorbenion Llywodraeth Cymru;
(b)
costau mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n digwydd.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu swm dyddiol safonol ar gyfer achos o ddisgrifiad penodedig.
(5)
Pan fo achos o ddisgrifiad penodedig yn digwydd, rhaid cymryd mai’r costau y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt yw—
(a)
y swm dyddiol safonol am bob diwrnod (neu gyfran briodol o’r swm hwnnw am ran o ddiwrnod) y mae person penodedig yn ymwneud ag ymdrin â’r achos;
(b)
costau yr eir iddynt mewn gwirionedd mewn cysylltiad ag ymdrin â’r achos —
(i)
ar lwfansau teithio neu gynhaliaeth, neu
(ii)
ar ddarparu llety neu gyfleusterau eraill;
(c)
unrhyw gostau y gellir eu priodoli i benodi personau penodedig i gynorthwyo i ymdrin â’r achos;
(d)
unrhyw gostau neu alldaliadau cyfreithiol yr eir iddynt neu a wneir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan mewn cysylltiad â’r achos.
(6)
Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.