(1)Caniateir rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau.
(2)Caiff amod, er enghraifft—
(a)gosod gofynion mewn cysylltiad â’r ffordd y mae’r gwaith neu unrhyw ran o’r gwaith i’w gyflawni neu mewn cysylltiad â’r personau sydd i gyflawni’r gwaith neu unrhyw ran o’r gwaith;
(b)ei gwneud yn ofynnol i berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru gael cyfle, cyn i unrhyw waith ddechrau, i archwilio’r heneb a’i safle ac i gyflawni unrhyw gloddiadau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddymunol at ddiben ymchwiliad archaeolegol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 18 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)