RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 3RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG
Rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau
18Pŵer i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i amodau
(1)
Caniateir rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau.
(2)
Caiff amod, er enghraifft—
(a)
gosod gofynion mewn cysylltiad â’r ffordd y mae’r gwaith neu unrhyw ran o’r gwaith i’w gyflawni neu mewn cysylltiad â’r personau sydd i gyflawni’r gwaith neu unrhyw ran o’r gwaith;
(b)
ei gwneud yn ofynnol i berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru gael cyfle, cyn i unrhyw waith ddechrau, i archwilio’r heneb a’i safle ac i gyflawni unrhyw gloddiadau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddymunol at ddiben ymchwiliad archaeolegol.