RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 2ACHOSION GERBRON GWEINIDOGION CYMRU
Ymchwiliadau lleol
179Talu cynrychiolydd a benodir pan fo mynediad i dystiolaeth wedi ei gyfyngu
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw person wedi ei benodi o dan adran 178 yn gynrychiolydd a benodir at ddibenion ymchwiliad lleol, pa un a yw’r ymchwiliad yn digwydd ai peidio.
(2)
Caiff awdurdod gweinidogol gyfarwyddo person (“y person cyfrifol”) i dalu ffioedd a threuliau’r cynrychiolydd a benodir.
(3)
Rhaid i’r person cyfrifol fod yn berson y mae’r awdurdod gweinidogol yn ystyried ei fod â buddiant yn yr ymchwiliad, neu y byddai wedi bod â buddiant yn yr ymchwiliad, mewn perthynas—
(a)
â diogelwch cenedlaethol, neu
(b)
â’r mesurau a gymerwyd neu sydd i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall.
(4)
Os nad yw’r cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol yn gallu cytuno ar swm y ffioedd a’r treuliau, rhaid i’r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gweinidogol a roddodd y cyfarwyddyd.
(5)
Rhaid i’r awdurdod gweinidogol beri i’r swm y cytunir arno rhwng y cynrychiolydd a benodir a’r person cyfrifol, neu a benderfynir gan yr awdurdod gweinidogol, gael ei ardystio.
(6)
Gellir adennill y swm ardystiedig oddi wrth y person cyfrifol fel dyled.