RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 2ACHOSION GERBRON GWEINIDOGION CYMRU
Ymchwiliadau lleol
176Pŵer Gweinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon.
(2)
Gweler hefyd baragraff 3(1) o Atodlen 12 ar gyfer y pŵer sydd gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 173 i gynnal ymchwiliad lleol mewn cysylltiad ag apêl.