RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 2ACHOSION GERBRON GWEINIDOGION CYMRU
Darpariaethau gweithdrefnol sy’n gymwys i apelau ac achosion eraill gerbron Gweinidogion Cymru
174Dewis o ymchwiliad, gwrandawiad neu weithdrefn ysgrifenedig
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru ym mhob achos benderfynu’r weithdrefn ar gyfer ystyried achos y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
(2)
Rhaid i benderfyniad ddarparu i’r achos gael ei ystyried mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn—
(a)
mewn ymchwiliad lleol;
(b)
mewn gwrandawiad;
(c)
ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad cyn diwedd y cyfnod a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(4)
Caniateir i benderfyniad gael ei amrywio drwy benderfyniad pellach ar unrhyw adeg cyn penderfynu’r achos y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef.
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r personau a ganlyn am benderfyniad—
(a)
y ceisydd neu’r apelydd (fel y bo’n briodol), a
(b)
yr awdurdod cynllunio o dan sylw.
(6)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r meini prawf y byddant yn eu cymhwyso wrth wneud penderfyniadau.
(7)
Mae’r adran hon yn gymwys i’r achosion a ganlyn—
(a)
cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 94 (atgyfeirio cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth neu i amrywio neu ddileu amodau);
(b)
apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);
(c)
cais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 106 (gwaith brys ar dir y Goron);
(d)
apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).
(8)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (7)—
(a)
i ychwanegu achos o dan neu yn rhinwedd Rhan 3, Rhan 4 neu’r Rhan hon,
(b)
i ddileu achos, neu
(c)
i addasu disgrifiad o achos.