RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 2ACHOSION GERBRON GWEINIDOGION CYMRU
Darpariaethau gweithdrefnol sy’n gymwys i apelau i Weinidogion Cymru
173Penderfynu apêl gan berson a benodir
(1)
Mae apêl y mae’r adran hon yn gymwys iddi i’w phenderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru (yn hytrach na chan Weinidogion Cymru).
(2)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
i apêl o dan adran 100 (apêl yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth, i amrywio neu ddileu amodau neu i gymeradwyo manylion);
(b)
i apêl o dan adran 127 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi).
(3)
Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i apêl—
(a)
os yw’n apêl o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, neu
(b)
os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod yr apêl i’w phenderfynu ganddynt hwy yn hytrach na chan berson a benodir.
F1(4)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5)
Pan fo person a benodir yn penderfynu apêl, mae penderfyniad y person a benodir i’w drin fel pe bai’n benderfyniad gan Weinidogion Cymru.
(6)
Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phenodiadau o dan is-adran (1) a chyfarwyddydau o dan is-adran (3)(b).