RHAN 5DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG AC ARDALOEDD CADWRAETH
PENNOD 1ARFER SWYDDOGAETHAU GAN AWDURDODAU CYNLLUNIO AC AWDURDODAU LLEOL ERAILL
169Trefniadau ar gyfer cael cyngor arbenigol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio ar unrhyw adeg i gyflwyno i’w cymeradwyo ganddynt y trefniadau y mae’r awdurdod yn cynnig eu gwneud ar gyfer cael cyngor arbenigol mewn cysylltiad â’i swyddogaethau perthnasol.
(2)
Rhaid i’r awdurdod gyflwyno ei drefniadau arfaethedig i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)
Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni â’r trefniadau y mae’r awdurdod (“awdurdod A”) yn cynnig eu gwneud, cânt gyfarwyddo awdurdod A ac awdurdod cynllunio arall a bennir yn y cyfarwyddyd (“awdurdod B”)—
(a)
i wneud cytundeb o dan adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) i osod ar gael i awdurdod A wasanaethau personau a gyflogir gan awdurdod B sy’n gymwys i roi’r cyngor arbenigol, neu
(b)
i wneud trefniadau i awdurdod B arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau perthnasol awdurdod A.
(4)
Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b) wneud darpariaeth ynghylch telerau’r trefniadau.
(5)
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ddau awdurdod cynllunio.
(6)
At ddibenion yr adran hon swyddogaethau perthnasol awdurdod cynllunio yw ei swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd—
(a)
adrannau 83 a 84 (rhestru adeiladau dros dro),
(b)
Pennod 2 (rhoi, addasu a dirymu cydsyniad) o Ran 3,
(c)
Pennod 3 (cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig) o’r Rhan honno,
(d)
Pennod 4 (gorfodi rheolaethau) o’r Rhan honno,
(e)
adran 314A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig), ac
(f)
adrannau 158 i 163 o’r Ddeddf hon (dynodi ardaloedd cadwraeth, dyletswyddau awdurdodau cynllunio a rheolaethu dymchwel).