RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH
Grantiau a chytundebau ardaloedd cadwraeth
166Cytundebau ardaloedd cadwraeth
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb ardal gadwraeth ag un neu ragor o awdurdodau cynllunio.
(2)
Mae cytundeb ardal gadwraeth yn gytundeb y bydd swm penodedig o arian yn cael ei roi o’r neilltu am gyfnod penodedig o flynyddoedd at ddiben rhoi grantiau ar gyfer atgyweirio adeiladau sydd mewn ardal gadwraeth ac—
(a)
sydd wedi eu cynnwys mewn rhestr a lunnir at ddibenion y cytundeb gan y partïon iddo, neu ganddynt hwy ac awdurdodau cynllunio eraill, neu
(b)
a ddangosir ar fap a luniwyd at y dibenion hynny gan y partïon, neu ganddynt hwy ac awdurdodau cynllunio eraill.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant at ddibenion cytundeb ardal gadwraeth i awdurdod cynllunio sy’n barti i’r cytundeb neu i unrhyw berson arall.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniadau ag unrhyw awdurdod o’r fath ynghylch sut y mae’r cytundeb i’w gyflawni (gan gynnwys trefniadau ar gyfer cynnig a thalu grantiau o dan yr adran hon).
(5)
Mae adran 165(4) i (9) yn gymwys i grant o dan yn yr adran hon, ond gan gymryd bod y cyfnod adennill yn 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y grant.