RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH
Grantiau a chytundebau ardaloedd cadwraeth
165Grant gan Weinidogion Cymru ar gyfer diogelu neu wella ardaloedd cadwraeth
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i dalu unrhyw wariant perthnasol y maent yn ystyried ei fod wedi gwneud neu y bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu neu wella cymeriad neu olwg ardal gadwraeth.
(2)
Mae gwariant yn berthnasol at ddibenion is-adran (1) os aed iddo neu os eir iddo wrth wneud y gwaith diogelu neu wella a grybwyllir yn yr is-adran honno, mewn cysylltiad â’r gwaith diogelu neu wella hwnnw, neu gyda golwg ar hybu’r gwaith diogelu neu wella hwnnw.
(3)
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon yn gymwys pan—
(a)
bo Gweinidogion Cymru yn rhoi grant o dan is-adran (1) mewn perthynas ag adeilad neu dir arall ar delerau sy’n darparu y gellir ei adennill o dan yr adran hon, a
(b)
cyn neu wrth roi’r grant, fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i dderbynnydd y grant sy’n—
(i)
crynhoi effaith yr adran hon, a
(ii)
pennu cyfnod, sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir y grant ac sy’n dod i ben heb fod yn hwy na 10 mlynedd ar ôl y diwrnod hwnnw, y gellir adennill y grant ynddo yn unol ag is-adrannau (5) i (7) (“y cyfnod adennill”).
(4)
Os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o amodau a osodir wrth roi’r grant, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.
(5)
Mae is-adrannau (6) a (7) yn gymwys os, yn ystod y cyfnod adennill—
(a)
caiff y cyfan neu ran o’r buddiant yr oedd derbynnydd y grant yn ei ddal, ar y diwrnod y rhoddwyd y grant, yn yr adeilad neu dir arall (“y buddiant perthnasol”) y mae’r grant yn ymwneud ag ef ei waredu neu ei gwaredu, a
(b)
caiff y gwarediad ei wneud drwy werthu, drwy gyfnewid neu drwy les am gyfnod o 21 o flynyddoedd o leiaf.
(6)
Os caiff y gwarediad ei wneud gan dderbynnydd y grant neu gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi rhan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth dderbynnydd y grant.
(7)
Os caiff y gwarediad ei wneud gan berson y mae derbynnydd y grant wedi rhoi’r cyfan o’r buddiant perthnasol iddo, caiff Gweinidogion Cymru adennill swm y grant, neu unrhyw ran o’r swm hwnnw, oddi wrth y person y rhoddwyd y rhodd iddo.
(8)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru adennill symiau o dan yr adran hon sydd, gyda’i gilydd, yn fwy na swm y grant.
(9)
Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at roi buddiant i berson yn gyfeiriadau at ei roi i’r person yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac eithrio ar farwolaeth deiliad y buddiant.