RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH

Diogelu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth ar frys

164Gwaith brys i ddiogelu adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod diogelu adeilad mewn ardal gadwraeth yn bwysig ar gyfer cynnal cymeriad neu olwg yr ardal honno.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod adran 144 (gwaith brys) yn gymwys i’r adeilad fel y mae’n gymwys i adeiladau rhestredig.

(3)

Pan fo cyfarwyddyd yn cael effaith mewn perthynas ag adeilad—

(a)

mae adrannau 144 i 146 i’w darllen fel pe bai cyfeiriadau at adeilad rhestredig yn gyfeiriadau at yr adeilad;

(b)

mae adran 144(7) i’w darllen fel pe bai paragraff (b) wedi ei hepgor.