RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH
Rheolaethu dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth
163Cymhwyso Rhan 3 i ardaloedd cadwraeth
(1)
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 3 yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau y mae adran 161 yn gymwys iddynt fel y maent yn gymwys i adeiladau rhestredig—
(a)
Pennod 2 (rheolaethu gwaith), ac eithrio—
(i)
adrannau 88 a 89;
(ii)
adran 90(1)(c) a (4)(b);
(iii)
adran 95;
(iv)
adran 96(2);
(v)
adran 97(5), (6) ac (9);
(vi)
adrannau 98(3)(b) a 99(5);
(vii)
adran 101(2);
(viii)
adran 104(3);
(ix)
adran 111(5) ac (8);
(b)
Pennod 4 (gorfodi), ac eithrio—
(i)
adran 117(5);
(ii)
adran 118;
(iii)
adran 128(3)(c);
(c)
Pennod 6 (cyffredinol), ac eithrio—
(i)
adran 152(1), (2), (3)(b) a (5)(c) i (e);
(ii)
adran 156.
(2)
Wrth eu cymhwyso mewn perthynas ag adeiladau y mae adran 161 yn gymwys iddynt—
(a)
mae’r darpariaethau a gymhwysir gan is-adran (1) i’w darllen fel be bai—
(i)
unrhyw gyfeiriad at gydsyniad adeilad rhestredig yn gyfeiriad at gydsyniad ardal gadwraeth;
(ii)
unrhyw gyfeiriad at gymeriad adeilad rhestredig yn gyfeiriad at gymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth y mae’r adeilad ynddi;
(iii)
unrhyw gyfeiriad arall at adeilad rhestredig yn gyfeiriad at adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo;
(iv)
unrhyw gyfeiriad at adran 88 yn gyfeiriad at adran 161;
(b)
mae’r darpariaethau a gymhwysir gan is-adran (1)(a) i’w darllen fel pe bai—
(i)
yn adran 98(3)(a), y cyfeiriad at adran 89(2) yn gyfeiriad at adran 162(2);
(ii)
yn adran 99(3), “adrannau 90 i 94” wedi ei roi yn lle “adrannau 90 i 95”;
(c)
mae’r darpariaethau a gymhwysir gan is-adran (1)(b) i’w darllen fel pe bai—
(i)
yn adrannau 117(4), 121(4) a 127(2)(d), y cyfeiriadau at ddiogelu’r adeilad wedi eu hepgor;
(ii)
yn adran 126(1), y cyfeiriad at adran 89(2) yn gyfeiriad at adran 162(2);
(iii)
yn adran 127(2), “nad oes angen cadw’r adeilad er lles diogelu neu wella cymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth y mae ynddi” wedi ei roi yn lle paragraff (a);
(d)
mae’r darpariaethau a gymhwysir gan is-adran (1)(c) i’w darllen fel pe bai, yn adran 152(3)(c), y cyfeiriad at adran 118 wedi ei hepgor.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i wneud darpariaeth ychwanegol neu ddarpariaeth wahanol ynghylch cymhwyso Penodau 2, 4 a 6 o Ran 3 mewn perthynas ag adeiladau y mae adran 161 yn gymwys iddynt.