RHAN 4LL+CARDALOEDD CADWRAETH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Rheolaethu dymchwel mewn ardaloedd cadwraethLL+C

162Awdurdodi dymchweliad drwy gydsyniad ardal gadwraethLL+C

(1)Mae gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—

(a)os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal neu gan Weinidogion Cymru, a

(b)os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).

(2)Pan—

(a)bo gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb gael ei awdurdodi, a

(b)bo’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,

mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad hwnnw.

(3)Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Ddeddf hon fel cydsyniad ardal gadwraeth.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 162 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 162 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)