RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH
Rheolaethu dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth
162Awdurdodi dymchweliad drwy gydsyniad ardal gadwraeth
(1)
Mae gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo wedi ei awdurdodi—
(a)
os yw cydsyniad ysgrifenedig i’w gyflawni wedi ei roi gan yr awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal neu gan Weinidogion Cymru, a
(b)
os yw’r gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad (gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrtho).
(2)
Pan—
(a)
bo gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae adran 161 yn gymwys iddo wedi ei gyflawni heb gael ei awdurdodi, a
(b)
bo’r awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig ar gyfer y gwaith,
mae’r gwaith wedi ei awdurdodi o adeg rhoi’r cydsyniad hwnnw.
(3)
Cyfeirir at gydsyniad o dan is-adran (1) neu (2) yn y Ddeddf hon fel cydsyniad ardal gadwraeth.