Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhnau. 3-5 cymhwyso (4.11.2024) gan S.I. 1999/1736, ergl. 11(1) (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 (O.S. 2024/924), rhlau. 1(2), 23(a))
(1)Ni chaiff person gyflawni gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae’r adran hon yn gymwys iddo, neu beri i waith o’r fath gael ei gyflawni, oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi o dan adran 162.
(2)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw adeilad mewn ardal gadwraeth, ac eithrio—
(a)adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 11);
(b)adeilad rhestredig (ond gweler adran 88);
(c)adeilad o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
(d)adeilad o ddisgrifiad a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir i awdurdod cynllunio unigol gan Weinidogion Cymru.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio bod yr adran hon, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (2)(c), i fod yn gymwys i adeilad o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
(4)Nid yw is-adran (1) yn gwahardd gwaith a gyflawnir gan neu ar ran y Goron o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 117(4) (gwaith brys).
(5)Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith yr adran hon yn peidio â bod yn gymwys i adeilad.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2A. 161(1) eithrio (4.11.2024) gan Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/930), rhlau. 1(2), 23
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 161(1)(2)(a)(b)(d), (3)-(5) mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(c)
I3A. 161(2)(c) mewn grym ar 9.9.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 2(1)(l)