RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH
Rheolaethu dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth
161Gofyniad i ddymchweliad gael ei awdurdodi
(1)
Ni chaiff person gyflawni gwaith ar gyfer dymchwel adeilad y mae’r adran hon yn gymwys iddo, neu beri i waith o’r fath gael ei gyflawni, oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi o dan adran 162.
(2)
Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw adeilad mewn ardal gadwraeth, ac eithrio—
(a)
adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 11);
(b)
adeilad rhestredig (ond gweler adran 88);
(c)
adeilad o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
(d)
adeilad o ddisgrifiad a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir i awdurdod cynllunio unigol gan Weinidogion Cymru.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod cynllunio bod yr adran hon, er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (2)(c), i fod yn gymwys i adeilad o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
(4)
Nid yw is-adran (1) yn gwahardd gwaith a gyflawnir gan neu ar ran y Goron o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 117(4) (gwaith brys).
(5)
Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith yr adran hon yn peidio â bod yn gymwys i adeilad.