RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH

Dyletswyddau sy’n ymwneud ag ardaloedd cadwraeth

160Arfer swyddogaethau cynllunio: dyletswydd gyffredinol sy’n ymwneud ag ardaloedd cadwraeth

(1)

Wrth arfer swyddogaeth gynllunio mewn perthynas ag adeilad neu dir arall mewn ardal gadwraeth, rhaid i berson roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu neu wella cymeriad neu olwg yr ardal honno.

(2)

Yn yr adran hon ystyr “swyddogaeth gynllunio” yw unrhyw swyddogaeth o dan neu yn rhinwedd y canlynol—

(a)

Rhan 3, y Rhan hon, Rhan 5 neu Ran 7 fel y mae’n gymwys at ddibenion unrhyw un neu ragor o’r Rhannau hynny,

(c)