RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 3LL+CRHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR HENEBION COFRESTREDIG

Ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredigLL+C

16Pŵer i wrthod ystyried ceisiadau tebygLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru, yn y 2 flynedd sy’n dod i ben â’r diwrnod y daw’r cais i law, wedi gwrthod cais tebyg, a

(b)os ydynt yn ystyried na fu unrhyw newid sylweddol mewn unrhyw ystyriaethau perthnasol ers i’r cais tebyg gael ei wrthod.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais am gydsyniad heneb gofrestredig os gwneir y cais ar adeg pan fydd cais tebyg yn cael ei ystyried.

(3)At ddibenion yr adran hon mae cais yn debyg i gais arall os (a dim ond os) yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y gwaith y mae’r ceisiadau yn berthnasol iddo yr un fath neu’n sylweddol yr un fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 16 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)