RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH

Dyletswyddau sy’n ymwneud ag ardaloedd cadwraeth

159Dyletswydd i lunio a chyhoeddi cynigion ar gyfer diogelu a gwella ardaloedd cadwraeth

(1)

Rhaid i awdurdod cynllunio o bryd i’w gilydd lunio a chyhoeddi cynigion ar gyfer diogelu a gwella unrhyw ran o’i ardal sy’n ardal gadwraeth.

(2)

Rhaid i’r awdurdod gyflwyno’r cynigion i’w hystyried i gyfarfod cyhoeddus a gynhelir yn yr ardal gadwraeth y mae’r cynigion yn ymwneud â hi neu, pan na fo lle addas yn yr ardal gadwraeth, mor agos iddi ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(3)

Rhaid i’r awdurdod roi sylw i unrhyw safbwyntiau, ynghylch y cynigion, a fynegir yn y cyfarfod.