RHAN 4ARDALOEDD CADWRAETH

Dynodi ardaloedd cadwraeth

158Dynodi ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn ardaloedd cadwraeth

(1)

Rhaid i awdurdod cynllunio—

(a)

o bryd i’w gilydd benderfynu pa rannau o’i ardal sy’n ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae’n ddymunol diogelu neu wella eu cymeriad neu eu golwg, a

(b)

dynodi’r rhannau hynny yn ardaloedd cadwraeth.

(2)

Caiff awdurdod cynllunio amrywio neu ganslo dynodiad.

(3)

Os yw awdurdod cynllunio yn dynodi ardal gadwraeth, neu’n amrywio neu’n canslo dynodiad, rhaid iddo roi hysbysiad ei fod wedi gwneud hynny i Weinidogion Cymru.

(4)

Rhaid i’r hysbysiad gynnwys digon o wybodaeth i adnabod yr ardal yr effeithir arni.

(5)

Rhaid i’r awdurdod cynllunio gyhoeddi’r hysbysiad gydag eglurhad o effaith y dynodiad, yr amrywiad neu’r canslo—

(a)

yn y London Gazette, a

(b)

mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal yr awdurdod.

(6)

Mae dynodiad o dan yr adran hon yn bridiant tir lleol.